Hafan YDDS-Astudio Gyda Ni-Cyrsiau Ôl-raddedig- Moeseg (MA, PGDip)
P’un a ydych am gymryd diddordeb personol mewn athroniaeth foesol i lefel arall, ddiweddaru eich sgiliau a gwybodaeth i ymgyfarwyddo â dimensiwn moesol eich proffesiwn, neu’n gobeithio cael eich herio, gall y cwrs ar-lein, rhan amser hwn ffitio o gwmpas eich bywyd.
Mae’r rhaglen hon yn gynnig unigryw sy’n manteisio ar gryfderau sefydledig wrth ddarparu athroniaeth ôl-raddedig ac arbenigedd staff presennol.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwmYmgeisio Nawrar frig y dudalen.
Sut i Wneud Cais Cyllid Ôl-raddedig Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref:£7,800
Dramor:£15,000
Pam dewis y cwrs hwn?
- astudio’n rhan amser, ar-lein o gwmpas eich ymrwymiadau bob dydd
- meithrin eich gwybodaeth am faterion moesegol pwysig sy’n berthnasol i’r gweithle modern
- elwa o draddodiad hir y Brifysgol o addysgu ac ymchwil ym maes athroniaeth a moeseg
- dewis o blith ystod o fodylau sy’n cysylltu astudio moeseg i bynciau amrywiol gan gynnwys busnes, yr amgylchedd, technoleg a rhagor
- dysgu gan staff profiadol, brwdfrydig.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen yn manteisio ar staff sy’n weithgar ym maes ymchwil athroniaeth a moeseg, gan gynnwys eu profiad proffesiynol o ystyried moeseg gwasanaethau cyhoeddus a newid deddfwriaeth a pholisi, yn ogystal â datblygu cynnig Dyniaethau Llambed mewn cyfeiriad sy’n troi o gwmpas gwaith a sgiliau.
Bydd y rhaglen yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu’n feirniadol â phrif heriau gweithle’r 21ain ganrif, ochr yn ochr â datblygu dealltwriaeth o’r ffyrdd y gall gwybodaeth academaidd am foeseg fod yn sail i arfer proffesiynol bob dydd. Mae’r datblygiad hwn o sgiliau allweddol ac ymwybyddiaeth yn y gweithle’n datblygu sgiliau a medrau gweithleoedd i gyfrannu at wybodaeth newydd am drawsnewid cymdeithasol ac ymddygiad gwaith proffesiynol.
Lefel 7 (MA)
Rhan I
- Moeseg Busnes ac Arweinyddiaeth (30 credyd)
- Moeseg Gofal a Meddygol (30 credyd)
- Trin Naratifau Cymdeithasol a Hanesyddol (30 credyd)
- Ecoleg ac Ysbrydolrwydd (30 credyd)
- Addysg a Moeseg (30 credyd)
- Moeseg Amgylcheddol ac Anifeiliaid (30 credyd)
- Damcaniaeth Foesegol (30 credyd)
- Gwybodaeth, Rheswm a Realiti (30 credyd)
- Meddwl a Chorff: Descartes a Wittgenstein (30 credyd)
- Moeseg Gwasanaethau Cyhoeddus (30 credyd)
- Technoleg, Deallusrwydd Artiffisial, a Moeseg (30 credyd).
- Yr Hunan: Dwyrain a Gorllewin (30 credyd)
Rhan II
- Traethawd hir MA (Athroniaeth) (60 credyd).
Caiff y rhaglen hon ei hasesu trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol yn ffocysu ar bwnc o’ch dewis.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Dr Husam Al-Mallak (Cyfarwyddwr Rhaglen)
- Dr Angus Slater
Gradd israddedig neu gyfwerth.
Bydd pob llyfr craidd ar gael drwy’r llyfrgell, ond efallai yr hoffech brynu eich copi eich hun, neu brynu adnoddau dewisol.
Bydd angen i chi fod â mynediad at liniadur neu gyfrifiadur neu ddyfais electronig arall sy’n eich galluogi i ddefnyddio systemau e-ddysgu’r Brifysgol.
Os hoffech gael mynediad i’r cwrs ar y campws neu ymweld â’r campws, mae rhwydd hynt i chi ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell, ond yn ddysgwr o bell, bydd angen i chi gael mynediad o bell.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadranYsgoloriaethau a Bwrsarïau.
Cysylltwch一倪os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.